Cofeb a Plac y Barri |
|
Plac Cartref 1af Gwynfor Cafodd plac ei osod ar gartref cyntaf Gwynfor, sef Y Goedwig, Somerset Road, Y Barri ym mis Medi, 2010. Cofeb Y Barri - Llyfrgell Y Barri
Mae'r penddelw efydd yn portreadu Gwynfor fel yr oedd yn ystod y 70au cynnar - ei gyfnod mwyaf llwyddiannus fel gwleidydd. Cafodd y plinth ei wneud o dderi Cymreig gan Ray Smith o Sir Faesyfed, cyn brif saer coed Amgueddfa Werin Cymru. Ysgrifennwyd y pennill gan Euryn Ogwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni cyntaf S4C: "Asbri'r gwladgarwr a'i ysbryd Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan bwyllgor bychan o dan arweiniad Gwenno Huws, cyn-ddirprwy Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn y dre. Codwyd arian i’r gofeb mewn cyngerdd ar ymddeoliad Gwenno Huws ym mis Gorffennaf y llynedd gyda nifer o artistiaid Cymreig yn cymryd rhan ac yn rhoi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Roedd y rhain yn cynnwys Y Tebot Piws, Heather Jones, Sioned Mair, Grug, Elen Rhys a Brigyn a’r troellwr disgiau Aled Wyn Phillips. Roedd Gwynfor Evans yn un o Gymry mwyaf blaenllaw a dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Ganwyd ef yn 1912 yn 24 Somerset Road, Y Barri. Ei dad oedd Dan Evans, perchennog yr unig siop adrannol yn y dref, nes iddi gau ei drysau am y tro olaf yn 2006. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gladstone Road ac wedyn yn Barry County School. Aeth ymlaen i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac wedyn i Brifysgol Rhydychen. Ar ddiwedd ei astudiaetau penderfynodd fynd yn arddwr masnachol yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn heddychwr a Christion brwd a chyhoeddodd ei hunan yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'n ganolog yn y frwydr aflwyddiannus i atal boddi Cwm Tryweryn i greu cronfa ddwr i ddinas Lerpwl. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru yn 1945, swydd a barhaodd ynddi hyd 1981. Fe'i hetholwyd yn aelod seneddol cyntaf y blaid yn 1966 pan gipiodd sedd Caerfyrddin. Ar ol torri addewid ynglyn a sefydlu S4C, priodolir tro pedol llywodraeth Margaret Thatcher i fygythiad Gwynfor i ddechrau ymprydio.
|