|
Fe gysegrodd Gwynfor ei fywyd i achos Cymru, i gryfhau'r ymwybyddiaeth o Gymreictod ac i ddyfnhau awydd pobl Cymru i wybod mwy am eu hanes a'u diwylliant eu hunain. Ei awydd pennaf oedd gweld pobl Cymru yn byw yn hyderus fel Cymry ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu cenedl eu hunain fel y gall y genedl hon gyflawni ei photensial a gwneud y cyfraniad mwyf posibl i wareiddiad y byd.
Pan oedd y teulu yn byw rhwng Bethlehem a Llangadog, fe fyddai Gwynfor yn aml yn dringo i ben y Garn Goch ger Bethlehem i gael heddwch ac ysbrydoliaeth. Roedd Gwynfor yn ymddiddori'n fawr iawn mewn hanes lleol, yn ogystal a hanes Cymru wrth gwrs, ac mae bryngaer fawr Celtaidd Y Garn Goch yn dyddio o'r Oes Haearn.
Mae'n debyg mai dyma oedd canolbwynt tiriogaeth fawr a gynhwysai'r rhan fwyaf o'r ardal i'r de o Afon Tywi, ac mae rhai yn credu mae hon oedd prif ddinas Dyfed yn ystod oes y Celtiaid.
Gofynodd i'w deulu drefnu bod ei lwch yn cael ei wasgaru ar y Garn Goch. Mae'n addas felly fod y garreg goffa i Gwynfor wedi cael ei chodi ar y Garn, uwchben ei hoff Ddyffryn Tywi.
Sut i gyrraedd y Garn Goch?
-- -- -- 
Pwyswch ar un o'r mapiau uchod am gopi mawr.
Dadorchuddio Cofeb i Gwynfor ar y Garn Goch - Dydd Sadwrn, Gorffenaf 15 2006
Dadorchuddiwyd cofeb i Gwynfor ar y Garn Goch ar ddydd Sadwrn Gorffenaf 15 fel rhan o Rali Cofio '66 i ddathlu deugain mlynedd union ers iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad hanesyddol ar Gorffennaf 14eg 1966. Mae pawb oedd ar sgwar Caerfyrddin y noson honno yn cofio'r gorfoledd bendigedig a'r gobaith afresymol a daniwyd yno.
Cloddiwyd y garreg enfawr, sy'n pwyso 7.5 tunnell, mewn chwarel ger Llandybie. Cerfiwyd enw Gwynfor arni gan yr artist enwog Ieuan Rees a fu'n gyfrifol am nifer o gerfiadau ar gofebion i enwogion yn hanes Cymru. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid/crefftwyr mwyaf amryddawn Prydain ym maes llythrennu, cerfio llythrennau, caligraffeg, herodraeth a chyfathrebu graffeg. |
 |
Dadorchuddio Cofeb i Gwynfor
01 - 02 - 03 - 04 - 05 - 06 - 07 - 08 - 09 - 10 - 11 - 12 - 13 - 14 - 15 - 16 - 17
Efallai bydd y llun yn cymryd rhai eiliadau i ymddangos. |
Gwasgaru Llwch Gwynfor ar y Garn Goch - Dydd Sadwrn, Medi 17 2005
Dymuniad Gwynfor oedd i'w lwch gael eu gwasgaru ar y gaer hynafol sydd ar y Garn, a dyna a wnaethpwyd gan y teulu ar ddydd Sadwrn Medi 17 2005, y dydd ar ol dydd Owain Glyndwr ac yn ystod mis penblwydd Gwynfor ei hun (Medi 1af).
|
 |
Cyrraedd y Gaer hynafol ar y Copa
01 - 02 - 03 - 04 - 05 - 06 - 07 - 08
09 - 10 - 11 - 12 - 13 - 14 - 15 - 16
Efallai bydd y llun yn cymryd rhai eiliadau i ymddangos. |
 |
Gwasanaeth byr i gofio a diolch am fywyd Gwynfor gan Y Parch. Guto Prys ap Gwynfor
01 - 02 - 03 - 04 - 05 - 06 - 07 - 08
09 -10 - 11 - 12 - 13 - 14 - 15 - 16
17 - 18 - 19 - 20
Efallai bydd y llun yn cymryd rhai eiliadau i ymddangos. |
|