Gwynfor Evans
Llyfrau a Chyhoeddiadau
English
> Hafan
> Newyddion
> Teyrngedau
> Llyfrau
> Apel Goffa
> Y Barri
> Garn Goch
> Angladd
> Rhiannon
> Dolenni
Dyma restr o lyfrau, pamffledi a chyhoeddiadau eraill wedi eu hysgrifennu gan Gwynfor Evans, neu gan eraill am Gwynfor Evans. Os yw'r cyhoeddiad dal mewn print, rydym wedi nodi lle gellir eu prynu arlein. Ar gyfer y cyhoeddiadau sydd allan o brint, rydym wedi ceisio nodi lle gellir dod o hyd iddynt yn y Llyfyrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi caniatad i ni gyhoeddi nifer o bamffledi a llyfrynnau Gwynfor Evans ar ein gwefan ar gyfer lawrlwytho. Mae hefyd modd lawrlwytho cyhoeddiadau eraill megis erthygl gan Richard Wyn Jones, a datganiad yn bygwth ymprydio gan Gwynfor Evans. Pwyswch ar y dolenni isod sy'n cychwyn gyda PDF i lawrlwytho'r ffeiliau PDF yma.

Geiriau Gwynfor Geiriau Gwynfor

Detholiad o'r geiriau a lefarodd ac a ysgrifennodd Gwynfor Evans yn ystod oes hir o ymgyrchu diflino dros achos Cymru. Mae yna lu o ddyfyniadau treiddgar a hanesyddol bwysig a fydd yn ysbrydoliaeth i holl edmygwyr prif wleidydd Cymru yn yr ugeinfed ganrif.

ISBN: 0862438616
Dyddiad Cyhoeddi Chwefror 2006 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal
Golygwyd gan Peter Hughes Griffiths
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com
Adolygiad o'r llyfr oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd

Rhag Pob Brad Rhag Pob Brad: Cofiant Gwynfor Evans

Cofiant cynhwysfawr, dadansoddol am y ffigwr mwyaf dylanwadol ac allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif; yn cynnwys llu o ffeithiau newydd am ei fywyd personol a'i yrfa.

ISBN: 0862437954
Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2005 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Caled, 640 tudalen
Awdur: Rhys Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com
Adolygiad o'r llyfr gan Arwel Ellis Owen oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
Rhys Evans yn trafod ei lyfr - Gwefan BBC Cymru'r Byd
Adolygiad o'r llyfr gan Richard Wyn Jones oddi ar wefan bARN
Adolygiad o'r llyfr gan Tomos Livingstone yn y Western Mail

Land of my Fathers Land of My Fathers - 2000 Years of Welsh History

Seithfed argraffiad o hanes cynhwysfawr, darluniadol Cymru o'r cyfnod cynnar a ysgrifennwyd yn llawn angerdd cariadus gan un o Gymry mwyaf yr 20fed ganrif. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1992. 71 llun du-a-gwyn a 15 map.

ISBN: 0862432650
Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2005 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 183x121 mm, 464 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

Cymru o hud Cyfres Celf Cymru 2000: Cymru o Hud

Cyfrol hudolus yn adlewyrchu treftadaeth hanesyddol gyfoethog Cymru trwy gyfrwng plethiad coeth o argraffiadau geiriol Gwynfor Evans, un o Gymry mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, a ffotograffiaeth sensitif Marian Delyth. 110 ffotograff lliw a 75 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf 2001.

ISBN: 0862435455
Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2004 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Arluniwyd gan Marian Delyth
Fformat: Clawr Caled, 218x302 mm, 146 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com
Adolygiad o'r llyfr oddi ar wefan clwbmalucachu.co.uk

Eternal Wales Eternal Wales

Cyfrol hudolus (Saesneg) yn adlewyrchu treftadaeth hanesyddol gyfoethog Cymru trwy gyfrwng plethiad coeth o argraffiadau geiriol Gwynfor Evans, un o Gymry mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, a ffotograffiaeth sensitif Marian Delyth. 110 ffotograff lliw a 75 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf 2001.

ISBN: 0862436087
Dyddiad Cyhoeddi Gorffennaf 2004 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Arluniwyd gan Marian Delyth
Cyfieithwyd gan Mihangel Morgan.
Fformat: Clawr Caled, 218x302 mm, 146 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

Blew a buddugoliaeth Gwynfor Cofiannau'r Lolfa: Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor

Detholiad difyr o gynnwys dyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, gitârydd bas y grwp roc Cymraeg cyntaf, 'Y Blew', a mab Gwynfor Evans, yn adlewyrchu ei farn am ganu pop y cyfnod, crefydd a gwleidyddiaeth, ffasiwn a rhyw. 41 llun du-a-gwyn.

ISBN: 0862436729
Dyddiad Cyhoeddi Awst 2003 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Caled, 220x153 mm, 210 tudalen
Awdur: Dafydd Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

For the Sake of Wales For the Sake of Wales - The Memoirs of Gwynfor Evans

Argraffiad clawr meddal newydd wedi'i ddiweddaru o gyfieithiad Saesneg o atgofion Gwynfor Evans, y gwleidydd Cymreig mwyaf dylanwadol yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda rhagair gan Dafydd Elis Thomas ac epilog newydd gan Steve Dubè. 9 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1996.

ISBN: 1860570216
Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2001 gan Welsh Academic Press, Caerdydd
Cyfieithwyd gan Meic Stephens.
Fformat: Clawr Meddal, 290 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com
Adolygiad o'r llyfr gan Rees Lloyd oddi ar wefan welshamerican.com

Fight for Welsh Freedom The Fight for Welsh Freedom

Cyflwyniad hawdd-ei-darllen i 2,000 o flynyddoedd o hanes Cymru yn cynnwys portreadau cryno o arwyr Cymru drwy'r oesau a ysbrydolwyd gan y ddelfryd o hunaniaeth Gymreig a sêl dros ryddid cenedlaethol, wedi ei ysgrifennu gan awdur toreithiog ac aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru. 24 ffotograff du-a-gwyn.

ISBN: 0862435153
Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2000 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 184x122 mm, 176 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com
Adolygiad o'r llyfr gan Rees Lloyd oddi ar wefan welshamerican.com
Adolygiad o'r llyfr gan Gwyn Griffiths oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
Adolygiad o'r llyfr gan David Cox oddi ar wefan rambles.net

Syniadaeth Wleidyddol Gwynfor Evans Syniadaeth Wleidyddol Gwynfor Evans

Dadansoddiad o syniadaeth wleidyddol Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru 1945-81. Mae'n pwysleisio ar y berthynas rhwng Gwynfor Evans a Saunders Lewis, a dylanwad Lewis ar gysyniadaeth Gwynfor o wlad, gwladwriaeth a iaith.

ISBN: 0142-3371
Dyddiad Cyhoeddi Mawrth 2000 yn Efrydiau Athronyddol Cyfrol LXIII (2000),
Fformat: Erthygl, tt. 44-63
Awdur: Richard Wyn Jones

PDF Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 496KB)

Wales a History Wales: A History - 2000 Years of Welsh History

Originally published in 1974 as 'Land of my Fathers' This edition published by Barnes & Noble, Inc. by arrangement with Ty John Penry.

ISBN: 0760701202
Dyddiad Cyhoeddi 1996 gan Barnes & Noble Books
Fformat: Clawr Caled, 465 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan barnesandnoble.com

Fighting for Wales Fighting for Wales

Arolwg o ymgyrchoedd cenedlaethol yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif ynghyd â rhai o'r consesiynau a enillwyd ym meysydd llywodraeth, yr economi, yr iaith a'r cyfryngau.

ISBN: 0862432367
Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 1991 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 224 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru

Hanes gweithgarwch Cymdeithas y Cymod yng Nghymru wedi ei osod ar gefndir eang gan Wr a roes wasanaeth di-ball i achos heddwch. Ffotograffau du-a-gwyn.

ISBN: 0951789104
Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 1991 Amrywiol / Various
Fformat: Clawr Meddal, 56 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

PDF Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 240KB)

Dim llun clawr Gwenllian: a Welsh Heroine / Gwenllian: Arwres Gymreig

ISBN: 0948329793
Dyddiad Cyhoeddi 1991, Cadw, Caerdydd
Fformat: Pamffled, 6 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan amazon.co.uk

Pe Bai Cymru'n Rhydd Pe Bai Cymru'n Rhydd

PE BAI Cymru wedi ennill ei rhyddid yn y ganrif ddiwethaf, buasai heddiw, tel y Ffindir, Norwy a Denmarc, yn un o wledydd bach mwyat blaengar y byd. Pe bai Cymru'n ennill ei rhyddid yn y ganrit hon, gallai eto, gydag Estonia a Latfia, tyw a ffynnu.

Yn y llyfr hwn, mae'r person a buasai'n Brif Weinidog i Gymru Rydd yn profi, trwy esiampl naw gwlad bach arall, bod popeth yn bosibl i wlad ag ewyllys i fyw. Er bod gan Estonia, er enghraifft, waeth mewn­lifiad estron na Chymru, mae hi eisoes wedi herio mawredd Rwsia. Mae'r llyfr hwn yn llawn ffeithiau dadlennol, ysgytwol i'n synnu a'n hysbrydoli. Darllennwn, ystyriwn, a gweithredwn i sicrhau y bydd Cymru'n rhydd.

ISBN: 086243176X
Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 1989 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 190 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

Dim llun clawr Welsh Nation Builders

Cofiannau 50 o enwogion hanesyddol mwyaf Cymru. An interesting study of the most important figures in the history of Wales who have contributed to the building and moulding of the Welsh nation is "Welsh Nation Builders," by Gwynfor Evans, himself a leader of unyielding patriotism and ardent fervor who has contributed much to the present resurgence of pride in Welsh nationhood. (Published by Gomer Press, Llandysul, 1988)

ISBN: 0863834019 (pbk) :, 0863834175 (cased)
Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 1988 gan Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal/Caled, 536 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan Amazon

Wales a Historic Community, Gwynfor Evans Wales, a historic community : who are we? : what are we?

Dyddiad Cyhoeddi 1988, Plaid Cymru, Caerdydd
Fformat: Pamffled, 12 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1988A86

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.55MB)

Seiri Cenedl Seiri Cenedl y Cymry

Cofiannau 50 o enwogion hanesyddol mwyaf Cymru.

ISBN: 0863834558
Dyddiad Cyhoeddi Ionawr 1987 gan Gwasg Gomer, Llandysul
Fformat: Clawr Meddal, 316 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan gwales.com

Dim llun clawr Yr iaith yn y nawdegau: Yr her o'n blaenau / The language in the nineties : a call for action

ISBN: B0007BG8JY
Dyddiad Cyhoeddi 1986, S.N, S.l.
Fformat: Pamffled, 6 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1985C11

Macsen Wledig Macsen Wledig a geni'r genedl Gymreig
Magnus Maximus and the birth of Wales the nation

Dyddiad Cyhoeddi 1983, Swyddffynnon : Cofiwn
Fformat: 40 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XDA1274.M17.E92

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 1.36MB - Cymraeg)
Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.14MB - Saesneg)

Bywyd Cymro Bywyd Cymro (Cyfres y Cewri: 4)

Am y tro cyntaf cawn gipolwg y tu hwnt i'r wedd gyhoeddus a chawn y fraint o rannu ei brofiadau a'i deimladau mwyaf personol. Y canlyniad yw stori unigryw un o eneidiau mwyaf yr ugeinfed ganrif... Mae'r llyfr hwn yn brawf o'i allu chwedlonol i gyflawni gwaith mawr o fewn amser byr. Cynlluniodd a recordiodd y cyfan o'i gynnwys ar gaset yn ystod y cyfnod rhwng dechrau Mawrth a diwedd Mai 1982.

ISBN: B0000EEX2R
Dyddiad Cyhoeddi 1982, Gwasg Gwynedd
Fformat: Clawr Caled, 344 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans - Golygwyd gan Manon Rhys
Prynu arlein oddi ar wefan amazon.co.uk

Dim llun clawr Diwedd y byd: Diwinyddiaeth J R Jones : a draddodwyd yn y Coleg ar Fai 11, 1982

ISBN: 0860760316
Dyddiad Cyhoeddi 1982, Coleg y Brifysgol Abertawe
Fformat: 13 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan amazon.co.uk

Yr Arglwydd Rhys Yr Arglwydd Rhys : tywysog deheubarth

Cyhoeddir er dathlu 850 mlwyddiant geni Rhys ap Gruffydd ym 1132.

Dyddiad Cyhoeddi 1982, Gwasg Gwynedd, Caernarfon
Fformat: 29 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XDA1280.R47.E92

Diwedd Prydeindod Diwedd Prydeindod

Ydyn ni'n gwybod pwy ydyn ni? Sawl un ohonom all ddweud yn onest mai Cymro ydyw, a dim arall; all honni ei fod yn byw ei fywyd fel Cymro - yn unig? A yw'n bosibl bod yn Gymro ac yn Brydeiniwr? Ai “is-genedl” yw Cymru i'r “genedl” Brydeinig? A oes wahaniaeth rhwng “cenedl” Prydain a “chenedl” LIoegr? Neu ai gwladwriaeth yn unig yw Prydain, yn galw'i hunan yn genedl er mwyn SEISNIGO'r Cymry allan o fod? Onid taeogion dauwynebog yw'r mwyafrif ohonom, yn gwasanaethu dau feistr; pobl ansicr, afiach a hollt yn eu hunaniaeth; yn cynnwys bradwyr sy'n poeri malais ar eu hiaith a'u cenedl eu hunain yn enw rhyw “ryng-genedlaetholdeb” nad yw'n ymestyn ymhellach na LIundain?... Mae darllen y lIyfr hwn yn brofiad ysgytwol. Gobaith yr awdur yw y bydd ei ddarllen a'i drafod yn ein deffro o'r newydd i benderfyniad di-ildio i weithredu dros ein gwir a'n hunig genedl - Cymru.

ISBN: 0862430186
Dyddiad Cyhoeddi 1981 gan Y Lolfa, Tal-y-bont
Fformat: Clawr Meddal, 144 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan ylolfa.com

Byw neu farw? Sianel Deledu Gymraeg Byw neu farw? : y frwydr dros yr iaith a'r Sianel deledu Gymraeg
Life or death? : the struggle for the language and a Welsh T.V. channel

ISBN: 0905077121
Dyddiad Cyhoeddi 1980, Plaid Cymru, S.I
Fformat: Pamffled, 18 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1980B20

Datganiad gan Gwynfor Evans 1980 Datganiad gan Mr Gwynfor Evans

Copi o ddatganiad Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd nes y penderfyna Llywodraeth San Steffan sefydlu Sianel Gymraeg. Mae'r datganiad wedi ei deipio gan Gwynfor, ac mae hefyd yn cynnwys nodion yn ei llawysgrif.

Dyddiad: Mai 1980
Fformat: Datganiad, 2 dudalen
Awdur: Gwynfor Evans

PDF Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 1.5MB)

George M Ll Davies, Pererin heddwch George M. Ll. Davies, Pererin Heddwch

Dyddiad Cyhoeddi 1980, Cymdeithas y Cymod
Fformat: Llyfryn, 11 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 4.69MB)

Gwynfor Evans - Pennar Davies Gwynfor Evans : golwg ar ei waith a'i feddwl

Y mae'r gyfrol hon yn cyflwyno portread diangof o un o Gymry enwocaf ein cyfnod, gan roi cipolwg ddadlennol ar ei gefndir ac ar ei bersonoliaeth. Er mai cyfaill ac edmygydd sy'n ysgrifennu, y mae'n ddigon gwrthrychol ei farn wrth gloriannu gweithgarwch Gwynfor Evans mewn mwy nag un maes... Ni all neb sy'n ymddiddori yn nhwf yr ymdeimlad cenedlaethol fforddio bod hebddo.

Dyddiad Cyhoeddi 1976, Ty John Penry, Abertawe
Fformat: Clawr Caled, 117 tudalen
Awdur: Pennar Davies
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XDA1304 E92 D25

A National Future for Wales A National Future for Wales

Gwynfor Evans has led Plaid Cymru since 1945. The story of the National movement's struggle for the life of a Nation is valuable reading not just for Welsh people but for all who care about the rights of small nations to life of their own.

ISBN: 0/905077/02/4
Dyddiad Cyhoeddi Rhagfyr 1975, Plaid Cymru / Gwasg John Penry Abertawe
Fformat: Clawr Caled, 117 Tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Dim llun clawr A government for Wales: Speech

ISBN: B0007C0TLG
Dyddiad Cyhoeddi 1975, H.M.S.O
Fformat: ???
Awdur: Gwynfor Evans

Hanes Cymru - Gwynfor Evans yn adrodd stori ei wlad History of Wales: Gwynfor Evans tells the story of his country

Reprinted from a series of articles by Gwynfor Evans, first published in the South Wales Echo.

Dyddiad Cyhoeddi 1974, South Wales Echo
Fformat: 34 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1974C2

Hanes Cymru - Gwynfor Evans yn adrodd stori ei wlad Hanes Cymru: Gwynfor Evans yn adrodd stori ei wlad

Cyfieithiad yr awdur o gyfres o erthyglau gan Gwynfor Evans a gyhoeddwyd gyntaf yn y South Wales Echo.

Dyddiad Cyhoeddi 1974, South Wales Echo
Fformat: 34 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XDA1254.E92 (4to)

Cenedlaetholdeb di-drais
Non-Violent Nationalism

Nonviolent nationalism
Cenedlaetholdeb di-drais

Darlith goffa Alex Wood ; 1973

ISBN: 090036825X
Dyddiad Cyhoeddi 1973, Cymdeithas y Cymod / Fellowship of Reconciliation
Fformat: Clawr Meddal, 24 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XJC311 E90

Wales can Win Wales Can Win

At this crucial period in our history there is a great need to give a wider circulation to the ideas now being worked out by a number of those in the forefront of the national movement - and especially at this time - to present something of their vision to the Welsh people who do not speak Welsh as a first language.

ISBN: 071540069X
Dyddiad Cyhoeddi 1973, Christopher Davies
Fformat: Clawr Meddal, 3148 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Prynu arlein oddi ar wefan amazon.co.uk

Aros Mae
Aros Mae
Aros Mae

Profiad diddorol eithriadol yw gweld hanes Cymru trwy lygaid Mr. Gwynfor Evans a phrofiad gwefreiddiol hefyd. Mae'n cwmpasu hanes y genedl o'i dechreuadau hyd heddiw ac y mae hynny ynddo'i hun yn rhoi safle arbennig i'r llyfr. Ei ddymuniad yw ein gwahodd i astudio'r patrwm cyfan yn hytrach nag ymgolli yn y manylion. A chan brinned llyfrau o'r fath ar ein hanes cenedlaethol, bydd croeso cynnes i gais disglair Mr. Gwynfor Evans i'n perswadio i gymryd golwg gyfan ar ein stori... Mae ôl darllen mawr a myfyrio hir ar y gyfrol hon ac mae'n syndod i wr cyn brysured ag ef gael amser i'w hysgrifennu, heb son am y ffaith fod llawer brawddeg a llawer paragraff ynddi'n glynu'n hir yn y cof am eu bod yn taflu goleuni newydd ar arwyddocad ein gorffennol... Heb os, mae'r gyfrol yn drysor. Ni bydd silff lyfrau neb ohonom yn gyflawn hebddi. Mae ei darllen yn foddion i adnewyddu ein balchter yn ein tras. Mae'n foddion diymwad hefyd i ysgogi gweithgarwch mwy penderfynol i ddiogelu a chyfoethogi ein treftadaeth. - R. TUDUR JONES

ISBN: B0000EEWN2
Dyddiad Cyhoeddi 1971, Gwasg John Penry, Abertawe
Fformat: Clawr Meddal, 325 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1971A17

Voice of Wales, Gwynfor Evans Voice of Wales: Parliamentary speeches

ISBN: B0007K3UUU
Dyddiad Cyhoeddi 1968, Plaid Cymru, Caerdydd
Fformat: 49 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1968A32

Celtic Nationalism Celtic Nationalism (Pennod 2 - Wales: by Gwynfor Evans and Ioan Rhys)

Once a parish-pump joke, has recently become a force to reckpn with in British Politics. The present book consists of three essays on the main branches of Celtic Nationalism. Gwynfor Evans and Ioan Rhys, in their chapter on Welsh Nationalism, discuss the historical background of nationalism in Wales, showing how the movement has developed over the years.They present the case for self-government setting out the principles of the Welsh nationalist party - Plaid Cymru - and outlining its practical policies.

SBN: 7100 6253 2
Dyddiad Cyhoeddi 1968, Routledge & Kegan Paul Ltd, Llundain
Fformat: Clawr Caled, 358 tudalen (Pennod 2 - 88 tudalen)
Awdur: Gwynfor Evans a Ioan Rhys (Pennod 2)

Dim llun clawr Wales a Nation Again the Nationalist Struggle for Freedom

Dyddiad Cyhoeddi: 1968, Library 33 Limited, Llundain
Fformat:
Awdur: P. Beresford Ellis. Rhagair gan Gwynfor Evans

Black Paper on Wales Black paper on Wales 1967

The questions in this pamphlet are a selection from those I asked between July 21 - August 18 and October 18 - December 22. The answers help to explain the growing conviction that the Government of Wales should be on Welsh soil and not at Westminster.

Dyddiad Cyhoeddi 1967, Plaid Cymru, Argraffwyd gan Western Telegraph, Hwlffordd
Fformat: Pamffledl, 45 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1967A28

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.62MB)

Dim llun clawr Television in Wales

Dyddiad Cyhoeddi 1966, Plaid Cymru, S.I.
Fformat: Pamffled, 15 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Dyb2004A778

Welsh Nationalist Aims Welsh Nationalist aims

THERE still remain in Europe a few small nations without political self-government. Three of them belong to the Celtic group, of which Ireland alone is self-governing. These three are wholly without self-government, lacking even that measure of it which the cantons of Switzerland or the provinces or states of other federal countries enjoy. Consequently their fate is to be assimilated by the dominant countries, England and-in the case of Brittany France, in whose states they have been incorporated. Wales is one of this group.

Dyddiad Cyhoeddi rhwng 1966-1970, Plaid Cymru, Western Telegraph
Fformat: Llyfryn 19 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1957B1

pdf Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 636KB)

Commonwealth Status for Wales, Gwynfor Evans Commonwealth status for Wales

ISBN:
Dyddiad Cyhoeddi 1965, Gee and Son Ltd, Dinbych
Fformat: Llyfryn 20 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.34MB)

Dim llun clawr The immediate need in Wales

ISBN: B0007K3UTG
Dyddiad Cyhoeddi 1964, Plaid Cymru
Fformat: ???
Awdur: Gwynfor Evans

Wales the Next Step Wales: The next step

Dyddiad Cyhoeddi 1964, Plaid Cymru, Caerdydd
Fformat: 12 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1964B5

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 5.13MB)

Rhagom i Ryddid Rhagom i Ryddid

Ymgais yw'r llyfr hwn i gyflwyno safbwynt y cenedlaetholwr Cymreig. Fe'i sgrifennais yn bennaf gogyfer â'r genhedlaeth ifanc, a ddisgrifiwyd fel y genhedlaeth orau a welsom yng Nghymru. Y mae gwaith enfawr yn ei haros, dim llai na sicrhau amodau cenedligrwydd cyflawn, ac yn bennaf yn eu plith wladwriaeth Gymreig.

ISBN: B0000CM5FC
Dyddiad Cyhoeddi 1964, Plaid Cymru Bangor
Fformat: Llyfryn, 141 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1964A27

Dim llun clawr Self-government for Wales and a Common Market for the nations of Britain

Dyddiad Cyhoeddi 1963, Plaid Cymru, Caerdydd
Fformat: Pamffled, 28 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Dyb1996A1542

Cyfle olaf y Gymraeg Cyfle olaf y Gymraeg

Dyddiad Cyhoeddi 1962, Gwasg John Penry, Abertawe
Fformat: Pamffled, 16 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1962B1

Wales as an economic entity - Plaid Cymru Wales as an economic entity: A reply

ISBN: B0007C0TLG
Dyddiad Cyhoeddi 1960, Plaid Cymru
Fformat: 8 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 1.41MB)

Dim llun clawr The wicked ban: Radio & TV veto against Wales : let Plaid Cymru speak

ISBN: B0007K3UUK
Dyddiad Cyhoeddi 1959, Plaid Cymru
Fformat: 19 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

80 Questions and Answers Plaid Cymru 80 questions & answers on Plaid Cymru (Welsh Freedom Party)

Translated from the Welsh by Meirion Lloyd Davies.

Dyddiad Cyhoeddi 1958, Plaid Cymru. Caerdydd
Fformat: 23 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XJN1193 W46

80 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru 80 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru

Pa beth Yw Plaid Cymru? Yr unig Blaid wleidyddol annibynnol Gymreig a fu erioed.

Dyddiad Cyhoeddi 1958, Plaid Cymru. Caerdydd
Fformat: 23 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1970A82

pdf Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 1.6MB)

We learn from Tryweryn, Gwynfor Evans Gwersi Tryweryn / We learn from Tryweryn

ISBN: B0000EES20 / B0007K3UUA
Dyddiad Cyhoeddi 1957, Plaid Cymru
Fformat: 27 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1965A46

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.31MB - Fersiwn Saesneg)

Dim llun clawr Our three nations : Wales, Scotland, England

ISBN: B0000CJDT1
Dyddiad Cyhoeddi 1956, Plaid Cymru; Scottish National Party; Common Wealth
Fformat: Pamffled, 79 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1956A51

Save Cwm Tryweryn Save Cwm Tryweryn for Wales

Ar glawr y pamffled hwn gan Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, dangosir darlun gan Ivor Owen o Bob Roberts Tai'r Felin, y canwr baledi enwog. Roedd cartref Bob Roberts gerllaw safle argae arfaethedig Tryweryn.

Dyddiad Cyhoeddi 1956, Gwasg John Penry, Abertawe
Fformat: Pamffled, 24 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Mwy o wybodaeth am y bamffled hon oddi ar wefan Casglu'r Tlysau
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1956A47

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.31MB)

Wales against Conscription

Wales against Conscription

OCLC Number: 493428958
Dyddiad Cyhoeddi: 1956
Fformat: Pamffled,15 Tudalen
Awdur: Gwynfor Evans (+ Dr Tudur Jones, Emrys P Robers a Lynn Moseley)

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 2.31MB)

Political Broadcast Ban The Political Broadcasts Ban in Wales

Cyfeirnod yr eitem: Llyfrau Prin / Rare Books X/HE 585 EVA
Dyddiad Cyhoeddi 1955, Llanelly
Fformat: Pamffled, 7 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Mwy o wybodaeth am y bamffled hon oddi ar wefan Casglu'r Tlysau

The Labour Party and Welsh Home Rule, Gwynfor Evans The Labour Party and Welsh Home Rule

ISBN: B0000CITJI
Dyddiad Cyhoeddi 1954, Plaid Cymru, Caerdydd
Fformat: Pamffled, 11 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Prynu arlein oddi ar wefan amazon.co.uk

Pwyswch yma i ddarllen yr ddogfen (PDF 1.3MB)

Dim llun clawr Cristnogaeth a'r gymdeithas Gymreig

'Yr anerchiad o'r Gadair yn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym Mhenygroes, Mehefin 2, 1954.'

Dyddiad Cyhoeddi 1954, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Abertawe
Fformat: Pamffled, 16 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1954A84

70 Cestiwn ac Ateb ar Blaid Cymru

70 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru

Dyddiad Cyhoeddi: Awst 1953
Fformat: Pamffled 18 Tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Plaid Cymru and Wales
Plaid Cymru and Wales
Plaid Cymru and Wales

This essay attempts to outline the main features of Nationalist policy in Wales. No writer on Welsh politics can fail to be deeply aware of the gravity of the crisis in the life of the Welsh nation, and in these pages I have tried to convey some sense of the urgent and imperative need for a Welsh Parliament. If the institution of a legis­Iature for Wales is delayed beyond the ending of American economic assistance to Britain, the disintegration of Welsh nationality may be hastened calamitously. The burden of this essay, therefore, is that self-government is an immediate and indispensable necessity if Wales is to survive as a nation.

ISBN: B0000CHLCV
Dyddiad Cyhoeddi 1950, Llyfrau'r Dryw, Llandybie, Silurian books series
Fformat: llyfryn, 73 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XJN1193 W46

They Cry Wolf - Gwynfor Evans

They Cry 'WOLF' - Totalitarianism in Wales, and the way out!

Dyddiad Cyhoeddi 1950, Plaid Cymru Caernarfon
Fformat: Pamffled, 12 Tudalen
Awdur: Gwynfor Evans

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 1.12MB)

Eu hiaith a gadwant, Gwynfor Evans "Eu hiaith a gadwant..." : a oes dyfodol i'r iaith Gymraeg?

Dyddiad Cyhoeddi 1948, Plaid Cymru, Caerdydd
Fformat: 6 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1948A74

Pwyswch yma i ddarllen y ddogfen (PDF 1.62MB)

Dim llun clawr Havoc in Wales. The War Office demands

Dyddiad Cyhoeddi 1947,
Fformat: ???
Awdur: Gwynfor Evans

Dim llun clawr The radio in Wales

Dyddiad Cyhoeddi 1945, New Wales Union, Aberystwyth
Fformat: 22 tudalen
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1945A108

Y Radio yng Nghymru - Gwynfor Evans Y radio yng Nghymru

Dyddiad Cyhoeddi 1944, Undeb Cymru Fydd, S.I.
Fformat: ???
Awdur: Gwynfor Evans
Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - Cad1944A104

Dim llun clawr

Tystiolaeth y plant (Pamffledi Heddychwyr Cymru)

Dyddiad Cyhoeddi: 1942, Y Faner/Heddychwyr Cymru 3c
Fformat: ???
Awdur: Gwynfor Evans, Rosalind Bevan, Arfor Tegla Davies, D. L. Trefor Evans, W. R. P. George, A. O. H.
Jarman, Gerallt Jones, J. R. Jones, Annie Humphreys, D. Tecwyn Lloyd, Dewi Prys Thomas a Waldo Williams.