Rhiannon |
|
Rhiannon Prys Evans: 1920 - 2006 "Roedd hi'n fam ofalus a charedig oedd â synnwyr digrifwch gwych. Roedd hi'n aelod o Blaid Cymru cyn fy nhad ac roedd yn cael ei chydnabod yn ymgorfforiad o Gymreictod ganddo." "Byw i'w gilydd oedd y ddau a Mam wedi byw erioed i wneud yn siwr bod Dad yn gallu cyflawni'r gwaith y cyflawnodd," "Dyna oedd ei chyfrifoldeb cyntaf ac roedd Dad yn deall, yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi hynny." Guto Prys ap Gwynfor - Mab Gwynfor a Rhiannon Evans
Meleri Mair - Merch Gwynfor a Rhiannon Evans "Roedd Mam yn ferthyr ar allor fy nhad" Dafydd Evans - Mab Gwynfor a Rhiannon Evans "Roedd Rhiannon Evans yn graig o gymar i'r diweddar Gwynfor Evans, yn ogystal a bod yn wraig alluog a chadarn yn ei hawl ei hun, a thrist iawn yw clywed am ei marwolaeth, wedi dioddef cystudd hir, a hynny'n ddi-gwyn ac yn hynod o ddewr." "Roedd y cariad amlwg rhwng Rhiannon a Gwynfor Evans a'u teulu cyfan yn ysbrydoliaeth i bawb a'u hadnabu, ac yr oedd y modd urddasol y dioddefodd Rhiannon ei anhwylder blin dros nifer o flynyddoedd yn destun edmygedd. Mae Cymru wedi colli un o'i merched ffyddlonaf, ac y mae ein cydymdeimlad yn llwyr gyda'r teulu oll yn eu hiraeth." Dafydd Iwan - Llywydd Plaid Cymru |