Gwynfor Evans
Teyrngedau
English
> Hafan
> Newyddion
> Teyrngedau
> Llyfrau
> Apel Goffa
> Y Barri
> Garn Goch
> Angladd
> Rhiannon
> Dolenni
Dafydd Wigley Does gen i ddim gronyn o amheuaeth mai fo ydi'r cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed yng Nghymru a Chymro mwya'r ugeinfed ganrif.

Dafydd Wigley, Cyn-lywydd Plaid Cymru

Roedd ei gyfraniad yn gyfangwbwl ryfeddol a'r cyfraniad yn rhychwantu saith degawd o weithgarwch ym mywyd cyhoeddus Cymru a Phrydain... Roedd ac mae'n ffigwr sy'n haeddu cael ei gyfri fel rhywun wnaeth drawsnewid map gwleidyddol Cymru a Phrydain.

Rhys Evans, Cofiannydd Gwynfor Evans

Rhys Evans
Rhodri Morgan Does dim modd gwadu ei gyfraniad anferth i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn arbennig wrth godi proffil Cymru a materion Cymreig a thrwy ei yrfa hir yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain.

Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru

Fel yr awgryma teitl un o'i lyfrau, ni roddodd Gwynfor y gorau erioed i 'Frwydro dros Gymru', ond roedd wastad yn wr bonheddig wrth frwydro ac yn gyson gwrtais, yn ogystal â bod yn benderfynol - nodweddion sydd weithiau'n llai nag amlwg yn nhirwedd gwleidyddol y presennol.

Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Barry Morgan

Barry Morgan

Dydw i rioed wedi anghofio fy nhad (y Parchedig Huw Jones neu 'Huw Bach' i'w gyfeillion) yn fy neffro'n unswydd blygeiniol un bore gan ddweud yn floesg fod 'Gwynfor ar ei ffordd i Senedd Llundain'. Roeddwn yn chwech oed ar y pryd. Cyfaill i'r teulu a phatrwm o fywyd i'w efelychu.

Sioned Webb (Llanllechid)

Ieuan Wyn a ddywedodd am ein cenedl:-

' Un cof a roed i'n gofal - ac un graig
I'n gwrogaeth ddyfal;
Un hanes yn ein cynnal,
Un darn o dir yn ein dal.'

Roedd cadernid Gwynfor a'i deulu yn ysbrydoliaeth i ninnau hefyd fel teulu - a diolch i nhad Owen Elias Owen lawfeddyg am roi'r iaith a than cenedlaetholdeb inni tra'n blant yn Llundain. Diolch am gael ddychwelyd i Gymru wedyn.

Owen E. Owen a Margiad Bryn Meurig Bethesda, y plant, Mair Rhodri Eiluned Sioned a Dafydd Cadwaladr, eu gwyr, gwragedd a'r 13 o wyrion.

I only recently joined Plaid and live in London. Last weekend I returned home to Barry to see my parents and was able to watch and enjoy the documentary on Gwynfor on S4C last Saturday night. Whilst, I have always known of the Dan Evans connection I had never actually realised that Gwynfor was from Barry and that he had only learnt Welsh as an adult.

To be truthful I only joined Plaid because I am now 40 and I am conscious that I am the first member of my father's family not to be continuing the language, and so to learn that Gwynfor only learnt Welsh as an adult and came from Barry means something to me.

I appreciate that this is not any proper sort of condolence, but he was a great man and has achieved a vital task. There may be those who quibble about methods and possibilities, but there can be no doubt that he did wonders and that without him our language and culture would be in a far worse state than it is. Thinking about him now I am reminded of my duty, but more my love of my language and culture, and desire for it not to be lost. And so these are my thanks to his family.


Huw Gruffydd Jones, London.

We were most grieve to hear that Gwynfor Evans passed away a week ago. In this time of mourning, we want to pay homage to the great man he has been. We shall remember that he opened and led the way to the creation of the Welsh Assembly, when he was elected to be a Member of Parliament in the by-election in Carmarthen in July 1966. We shall remember his great work as President of the Plaid Cymru. We shall remember the prominent part he played in the official recognition of the Welsh language and in the creation of S4C. For our party he will remain an example to be followed.

We share in your sorrow and we send our sincere and deep sympathy to Gwynfor Evans's family and to all members of the Plaid Cymru.

Yves Jardin Douarnenez, Brittany. (The Breton Democratic Union)

Tra'n astudio ym mherfeddion "This green and pleasent land" Lloegr roedd yna un llyfr oedd yn berthnasol iawn i fy mhenderfyniad a fy ymroddiad i ddod adref i Gymru, i fyw ac i weithio sef "Bywyd Cymro" hunangofiant Gwynfor. Fy hoff lyfr trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn wir un o fy hoff lyfrau erioed. Diolch Gwynfor, ni'n mynd i dy golli.

Aled Davies, Llandeilo.

An-bhrón orm faoi bhás Gwynfor Evans. Fear uasal a bhí ann a bhí mar ceann ródaí dúinn go léir sna tíortha ceilteacha.

I met him one at a Celtic League meeting years ago and i realises that this was a Christian gentleman, without guile, a just man. The world and especially his beloved country is the poorer for his passing. Would that we in Ireland could
have such a visionary. Ar dheis Dé go raibh a anam uasal. (May his noble soul be at the right hand of God!)

Eoin Ó Riain, Baille na hAbhann, Conamara, Iwerddon

Dim ond gair i ddatgan fy nghydymdeimlad diffuantaf a chi fel teulu ar eich profedigaeth. Gwynfor oedd yr un a'm symbylodd i ymaelodi ac ymgyrchu dros Blaid Cymru. Iddo ef mae'r diolch am greu ein cenedl ar ei ffurff gyfoes ac iddo ef mae'r diolch am greu'r gobaith a dyhead ynom y gwelwn Gymru yn rhydd rhyw ddiwrnod. Bydd colled a bwlch mawr ar ei ol, ond fe erys ei weledigaeth a'i ysbrydoliaeth yn ein meddyliau a'n calonnau. Diolch diderfyn am ei fywyd a'i waith, a phob bendith arnoch fel teulu.

Gareth a Myra Jones a'r teulu, Llandudno (Cyn Aelod Cynulliad PC Conwy 1999-2003)

Mae'n fraint i gael y cyfle yma i dalu teyrnged byr er cof am GWYNFOR EVANS. Cefais y fraint o'i gyfarfod nifer o weithiau dros bron i ddeugain o flynnyddoedd, a bu yn symbyliad i gadw fynd gyda gwaith y Blaid yn Sir Benfro ar adegau digon annodd, ond y côf sydd flaenaf oedd y cyfarfod cyhoeddus arbenig a gafwyd yng Ngrhymych i ddatgan fod eu ympryd bwriadol dros sianel cymraeg i Gymru wedi ei ddileu oherwydd y llwyddiant yn erbyn bwriadau Magi a'i chriw.

'Roedd GWYNFOR yn ddyn i'w edmygu ond 'roedd hefyd yn wrol ac yn ffeind gyda phawb yn unol a'i gred fel Cristion, ategaf eto mae braint oedd ei adnabod. Derbyniwch ein cydymdeimlad fel teulu, ond yn y sicrwydd ei fod wedi mynd at eu waredwr ac at ei wobr. Pob bendith i chwi oll fel teulu, a bydded i Dduw fod gyda chwi.


Gwyndaf (Tomos), Heather, Meilyr a Nia, Ffynnon-Owen, Eglwyswrw.

Diolch am fywyd Gwynfor. Heb os, ni fysau Cymru yr un wlad heddiw heb ei gyfraniad ef. Arwr. Cydymdeimladau mawr gyda'r teulu a heddwch i'w lwch.

Angharad Griffiths, Caerdydd

Cymru Ryngwladol Heddychlon - byddai hyn ond yn freuddwyd ddi-son yn meddyliau rhai ohonom heb gyfraniad Gwynfor Evans. Bellach mae'n gysyniad cyraeddiadwy.

Cyfunodd Heddychiaeth a ufudd-dod gyda angerdd dros ei wlad a dros ei waith fel Aleod Seneddol. Parhaodd i frwydro tra'r oedd y sefydliad yn chwerthin arno, nes iddo ennill parch a chydnabyddiaeth i'w Blaid, i'w iaith ac i'w wlad.

Y Cymro dewrach a fu erioed.


Rhodri Davies, Llangrannog

Yr hyn a gofiaf fi am Gwynfor yw'r modd y gallai sefyll mor gadarn dros ei egwyddorion ei hun, a hynny yn wyneb gwrthwynebwyr sarhaus, ond heb erioed ddangos gelyniaeth bersonol. Prin iawn yw’r gwleidyddion mewn unrhyw wlad y gellir dweud hynny amdanynt.

Er ei golli, credaf y gwelwn ei ddylanwad ar bobl Cymru’n parhau, os nad yn cynyddu, dros genedlaethau i ddod.

Siôn Aled Owen, Wrecsam

I am an English born Welsh language struggler. I joined Plaid Cymru in 1983 as an English immigrant to a Welsh university. Plaid has always stood for what I looked for - and apart from the political I have always been charged by the fact that Plaid Cymru is a party of belief and energy.

Gwynfor was a learner, he never gave up and he - when the authorities wanted to eliminate people who did not agree - stood up to offering the ultimate to get us (and I now believe that I am Welsh) respect and recognition. I have friends in other Welsh parties and they have ALL said he was A GREAT MAN.

Gwynfor began and started a party that may well fall out but still works together. We are a family that fights but one that still believes in a common goal. We are a family that has lost, not our leader, but our spiritual father.


Richard Coombs

Mewn portread o Gwynfor yn y 'Times' pan oedd yn aelod Seneddol, brawddeg gyntaf Trevor Fishlock oedd: "There is a certain saintly quality to Gwynfor Evans which infuriates his enemies." Dyna osod bys ar yr hyn oedd yn ei wneud yn wahanol i bob gwleidydd arall - y gwr diymhongar gyda'r wen fach swil ond gydag argyhoeddiad na allai neb ei siglo.

Braint aruthrol oedd cael ei adnabod, a chael ei gwmni... yng ngharchar Pentonville (yn ddi-feth bob wythnos), yn agoriad swyddogol Tryweryn, ar lwyfannau gwleidyddol yn Aberystwyth, Llanfyllin a'r Trallwng, a llawer mwy. Llawn cymaint o fraint yw cael adnabod amryw o'r teulu rhyfeddol hwn. Boed i'w fywyd ein hysbrydoli o'r newydd i weithio dros yr achos.

Arfon Gwilym, Llanllechid

Tristwch mawr oedd clywed am farwolaeth Gwynfor. Bu'r genedl Gymreig llawer yn dlotach heb ei bresenoldeb. R'oedd yn arweinydd cadarn, diymhongar, didwyll a diflino a mawr yw ei golled. R'oeddwn i yn edrych i fynu ato pan yn blentyn ac yn ymhel a gwleidyddiaeth ac fe oedd yn un o'r rhai roddodd y tan yn fy m'ol am Gymru a'r iaith Gymraeg. Cydymdeimlad dwys i'r teulu am golli, Gwr, Tad a Thadcu cariadus.

Gwenno Dafydd

Gwynfor a Waldo oedd ein harwyr ni genhedlaeth ifanc y 60au. Roedd bob amser yn annog ac yn gefn, gyda chalon gynnes at bawb oedd yn caru Cymru a'r Gymraeg.

Gwnes brofi hynny yn bersonnol fel ymgeisydd seneddol dibrofiad 21ain oed yn Sir Benfro yn 1964 ac wedyn fel trefnydd ieuenctid adeg is-etholiad 1966. A dyna yw profiad miloedd eraill. Diolch Gwynfor, am yr ysbrydoliaeth ac am ddysgu i ni bwysigrwydd dyfalbarhad.

Dyfrig Thomas, Sir Benfro a Llanelli.

Roeddem yn wirioneddol drist o glywed y newyddion am farw Gwynfor Evans. Roedd yn ddyn crwn yn null y Dadeni, yn ddyn a allai gyfuno Cymreictod a chariad a pharch at genhedloedd a diwylliannau eraill. Diolch i Dduw iddo gael byw i weld rhyw fath, o leiaf, o senedd yng Nghymru.

Gwladgarwr, heddychwr, gwleidydd - bu fyw arwyddair yr Urdd. Mae'n cydymdeimlad lwyraf gennych chwi fel teulu.

Lona a Meirion Jones
Y Parchedig Brifardd Gwynn ap Gwilym
Y Parchedig Ifor ap Gwilym

Diolch i Gwynfor am yr holl ysbrydoliaeth a'r gwaith diflino a wnaeth ar ran ein cenedl. Heb os dyma Gymro mwyaf yr Ugeinfed ganrif ac fe bery ei weledigaeth am oesoedd i ddod. Os gallaf gyflawni canfed rhan o'r hyn a gyflawnodd Gwynfor dros fy ngwlad fe fyddaf yn falch. Diolch i Dduw amdano a diolch am gael ei adnabod.

Gwyn Elfyn, Pontyberem

Cawr o ddyn, addfwyn ei natur, dyn a'm hysbrydolodd i ddysgu'r iaith a bellach rwy'n dysgu eraill iaith ein cyndadau o'i herwydd. Gwr oedd wedi dangos i fi gwir ystyr cenedlaetholdeb a chariad dros Gymru. Bydd Cymru'n dlotach ar ei ol, ond yn gyfoethocach o'i herwydd e. Cydymdeimladau i'w deulu yn ystod eu galar.

Andrew Shurey

A minnau'n wraig ifanc un ar hugain oed newydd orffen fy nghwrs yn y coleg cofiaf fel ddoe fy ngorfoledd o glywed y cyhoeddiad ar y radio fod Gwynfor Evans wedi ennill y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru. Wedi dioddef dirmyg fel llawer un arall mae'n debyg am gefnogi'r Blaid dyma gychwyn ar gyfnod o obaith newydd a hygrededd i ni.

Dangosodd Gwynfor fel y mae'n bosibl i rai na chafodd y cyfle i feistroli iaith unigryw Cymru yn eu plentyndod i wneud hynny yn gwbl lwyddiannus, a'i gorseddu unwaith yn rhagor fel iaith yr aelwyd. Gwerthfawrogais a mwynheais yn arw y llyfr Aros Mae a ysgrifennodd Gwynfor gan roi i ni hanes Cymru o safbwynt Cymreig a Chymraeg mewn cyfnod pan oedd hynny'n beth prin.

Aros mae hefyd, gyfraniad mawr ac arbennig iawn Gwynfor Evans, a diolch o galon amdano. Bydded i ni barhau a'i waith a dwyn y maen i'r wal yn adennill ei phriod le i'r Gymraeg, a'r grym i warchod a hyrwyddo buddiannau ein gwlad ein hunain.

Felicity Roberts, Aberystwyth, gynt o Chwilog

Braint ac anrhydedd i mi oedd cydweithio gyda Gwynfor Evans ar hyd y 70'au. Dyma'r cyfnod y daeth ystyr newydd i genedlaetholdeb a chariad tuag at Gymru gan gymaint o bobl. Gwynfor heb os oedd tad a chynhaliwr yr ymgyrchu am Gymru rydd a hunan-lywodraeth i'n gwlad. Prin ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae ein sefyllfa wleidyddol wedi ei newid yn llwyr. Ie, i Gwynfor a'r holl bobl a daniwyd ganddo mae'r diolch am hynny.

Mae ein cenedl yn fawr ei diolch i Gwynfor am ateb yr alwad a gafodd a'n harwain ar y ffordd i ryddid llawn. Diolch amdano ac am ei fywyd cyflawn.

Peter Hughes Griffiths

Diolch am genedlaetholdeb yr heddychwr. Dylai pob dinas, tref a phentref yng Nghymru enwi stryd ar ei ol, er mwyn sicrhau y bydd enw Gwynfor ar gof a chadw'n dragywydd.

Androw Bennett, Llanarthne a Llangennech.

I will never forget how, when I was thinking about starting Cambria magazine in 1997, those whose advice I sought almost without exception told me I was mad, and that such a venture was certain to fail. I had known Gwynfor since 1996 and, although I hadn’t seen him for many years, decided to seek his advice. I visited him in Pencarreg and explained my plans for a new national magazine for Wales. Without hesitation he said to me “You MUST do it! Wales needs such a magazine, and, what is more, you must do it in English.” When I expressed surprise at this last remark, he replied that there were many Welsh language publications, all of whom tended to ‘preach to the converted’; what was needed was a pioneering, patriotic magazine in English which would involve, educate and inspire the four-fifths of Welsh people who could not (yet) speak Welsh. It was, he implied, my duty to do this, and he would provide me with the first article (which appeared in the first issue and was a masterful encapsulation and interpretation of the history of the Cymry). Quite obviously, there could be no turning back!

In the early years of Cambria magazine, before he became too ill, he never failed to telephone me or write either to congratulate me on editions he admired or to encourage me with suggestions for new topics or people to interview. Cambria magazine is a living tribute to the genius, vision and power of Gwynfor. Cambria goes on from strength to strength, in no small way thanks to this heroic and wonderful man.

I will never forget the great privilege of being the joint organiser, with Arturo L. Roberts the publisher of Ninnau, of the Anrhydedd Cymry’r Cyfanfyd 2000 Worldwide Welsh Award at the Eisteddfod in Llanelli, and standing on the stage in the packed pavilion at what proved to be Gwynfor’s last appearance in public. No-one who was there on that day will ever forget the incredible power and emotion of the occasion and will treasure the memory for the rest of their lives.

Gwynfor has passed on but his spirit will live for ever in his beloved Cymru. May his soul rest in peace.

Henry Jones-Davies

Diolch am y cyfle i dalu teyrnged i fywyd a gwaith Gwynfor. Cawr yn wir a mawr ein colled. Ymlaen dros Gymru a'r frwydr ddi-drais dros heddwch byd a dyfodol i'n hiaith a'n cymunedau.

Sian Howys, Aberystwyth.

Diolch o galon i ti Gwynfor am bopeth gwnes di. Rwyt ti yn arwr i ein gwlad ac mi fyddwn yn dy gofio fel un o’n arweinwyr am ganrifoedd i ddod. Rhoddodd dy weledigaeth ystyr a phwrpas i ni ac fe wnawn ni gofio popeth y gwnes di, a’r modd y gwnes di bopeth. Dylai Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau fod cofeb yn cael ei godi i ti neu fod adeilad (megis yr ysbyty newydd nesaf sydd yn cael ei hadeiladu yng Nghymru) yn cael ei enwi ar dy ol. Fe wnawn dy golli yn arw ac mae ein dyled i ti yn un anferth.

Owen Mac Carthy, Llanelli

Ble fuasai'r Cymry heddiw heb arweinydd fel Gwynfor Evans? Ein arwr cenedlaethol!

Menna Edwards, Aberystwyth

Y Saesneg yw cerbyd angau Cymru. Gwybu Gwynfor hynny. Diolch iddo am ein S4C annwyl ni. Arwr, cawr, bonheddwr. Sut siap yn wir (!) fuasai arni hebddo?

William Knox, Toronto, Canada

Diolch yn fawr am bob dim wnaist i Gymru ai phobol a'r iaith. Diolch Gwynfor!

Dylan A Roberts, Penygroes

Roedd hi'n ddrwg calon gen i glywed am farwolaeth Gwynfor. Roeddwn ni yn ei edmygu a'i barchu yn fawr fel person a fel gwleidydd. Yn anad dim, roedd e'n ddyn da. Cofion i chi gyd fel teulu - mae Cymru wedi colli un o'i meibion galluocaf.

Aled Scourfield, Caerdydd

Gallai'r teyrngedau hyn a'r newyddion am ei farw fod wedi eu rhoi ym 1980, a byddai Cymru ddi-sianel yn eithriadol o chwerw am ei golli. Ond enillodd, a chawsom chwarter canrif arall o arweiniad ganddo.

Angharad Tomos, Penygroes

Mae ysgol yn sumbol o obaith am y dyfodol i gymuned leol ac ewyllys i fyw. Mae'r frwydr i gadw a datblygu'r ysgolion pentrefol hyn yn deyrnged i waith di-flino Gwynfor dros y blynyddoedd yn teithio Cymru ac yn galw pobl i ryddid a derbyn cyfrifoldeb am ddyfodol eu cymunedau mewn oes o ddifaterwch. Cymuned o gymunedau yw cenedl y Cymry yn ôl Gwynfor, ac y mae sicrhau Cymru rydd yn golygu rhyddhau, grymuso a Chymreigio pob cymuned leol.

Ffred Ffransis (mewn cyfarfod a drefnwyd gan Blaid Cymru yn Ysgol Prion y noson y bu farw Gwynfor.)

Beth bynnag ddywed rhywun am ei ddiwinyddiaeth; yn sicr mae Plaid Cymru wedi colli cydwybod Gristnogol gref arall o'i rhengoedd. 'Cyfiawnder a ddyrchafa genedl' - Diarhebion 14:34

Rhys Llwyd (Llywydd Undeb Cristnogol Cymraeg Aberystwyth)

Does gen i ddim gronyn o amheuaeth mai fo ydi'r cenedlaetholwr gwleidyddol mwya' erioed yng Nghymru a Chymro mwya'r ugeinfed ganrif.

Dafydd Wigley (Cyn-lywydd Plaid Cymru)

Roedd yn ddylanwad enfawr ar fy naliadau gwleidyddol ac yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar ôl ei ddoethineb a'i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Mae'n cydymdeimlad ni oll gyda'i wraig Rhiannon a'i deulu.

Dafydd Iwan (Llywydd Plaid Cymru)

Mae Cymuned yn diolch am gyfraniad aruthrol Gwynfor Evans i’n cenedl, ac yn cydymdeimlo a’i deulu yn eu profedigaeth.

Aran Jones (Prif Weithredwr Cymuned)

Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch am fywyd Gwynfor Evans - am ei arweiniad a'i gefnogaeth bob amser i Gymdeithas yr Iaith a'r frwydr dros y Gymraeg. Rhoi diolch yw'r unig air a gweithred sy'n gweddu ar hyn o bryd.

Steffan Cravos (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith)

Mae aelodau Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn diolch i Gwynfor am ei gyfraniad enfawr i heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru. I Gwynfor yn bennaf mae'r diolch fod y mudiad cenedlaethol yng Nghymru wedi dilyn y ffordd ddi drais tuag at ryddid i'n gwlad.

Arfon Rhys (Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru

Teyrngedau o wefannau eraill

Anfonwch eich teyrnged at y cyfeiriad canlynol (cofiwch gynnwys eich enw ac enw eich tref): hedd@gwynfor.net