Angladd Gwynfor Evans yn Aberystwyth |
|
Bu farw Dr Evans, Aelod Seneddol cyntaf y blaid, ar Ebrill 21 yn 92-oed ac mae nifer gan gynnwys gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn talu teyrnged iddo. Cynhaliwyd gwasanaeth preifat yng nghartre'r teulu yn Nhalar Wen, Pencarreg, am 1100 fore Mercher. Yna dechreuodd y gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Seion yn Aberystwyth am 1330. Arweiniodd pibydd yr orymdaith angladdol i'r capel. Roedd baner y ddraig goch yn gorchuddio'r arch ac yn dilyn roedd tua 40 o aelodau'r teulu.
|