Apel Goffa Genedlaethol Gwynfor Evans |
|
![]() Ym mlwyddyn canmlwyddiant geni Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, cafodd apêl genedlaethol ei lansio i sicrhau cofeb barhaol iddo yng Nghaerfyrddin, tref oedd mor allweddol i'w hanes ac i hanes Cymru. Cafodd yr apêl ei chyhoeddi ym 2012 mewn cyfarfod ger carreg goffa bresennol Gwynfor ar fryngaer y Garn Goch, ger Llandeilo, lle taenwyd ei lwch yn dilyn ei angladd yn 2005, nos Sadwrn Medi 1. Y bwriad yw codi cofeb yng Nghaerfyrddin erbyn 2016 - sef 50 mlynedd ers iddo ennill yr isetholiad. |