Hafan Gwynfor Evans |
|
Daw'r sain yn y ffilm uchod o record byr gan Gwynfor Evans yn dilyn ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru ym 1966. Hawlfraint Sain - Recordiau'r Dryw, Christopher Davies Ltd, Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Lluniau - wedi eu codi o'r we a mannau eraill. Testun Isod - gan Islwyn Ffowc Elis, oddi ar gefn y record. Mae Gwynfor Evans yn perthyn i griw dethol o bobl a heriodd Margaret Thatcher ac ennill yn ei herbyn. Cafodd ei gynddeiriogi wedi iddi dorri ei gair ynglyn â sefydlu S4C ym 1980 a bygythiodd newynu i farwolaeth. Roedd hynny'n ddigon i beri i'r "Ddynes Haearn" newid ei chân am unwaith. Fel ymgyrchydd diflino ar faterion fel yr iaith a hunaniaeth ddiwylliannol, digon annisgwyl oedd cefndir Gwynfor. Roedd yn fab i berchennog siop adrannol yn y Barri, tref y dociau yn y de, a ddysgodd Gymraeg pan yn oedolyn. Yng ngholeg y Brifysgol Aberystwyth y daeth gwleidyddiaeth Gwynfor Evans i'r amlwg. Sefydlodd gangen Plaid Cymru, a oedd yn blaid ymylol ar y pryd, a oedd yn cael ei chysylltu'n bennaf ag ymgyrchoedd uniongyrchol a argymhellwyd gan yr awdur a'r ysgolhaig Saunders Lewis. Roedd Gwynfor yn heddychwr a wrthododd wasanaethu'n yr Ail Ryfel Byd. Ym 1945, daeth yn Llywydd ar y blaid, a dechreuodd ei ymgyrch yn erbyn boddi pentref Cwm Celyn ger y Bala - cynllun a fyddai'n darparu dwr i Lerpwl. Er i'r ymgyrch fod yn aflwyddiannus, bu'n fodd i amlygu'r bygythiad cynyddol i gymunedau Cymraeg a'r iaith ei hunan. Daeth ei awr fawr ym 1966 pan alwyd isetholiad yng Nghaerfyrddin. Yn gwbl annisgwyl, enillodd Gwynfor Evans a Phlaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol. Dangosodd ganlyniad Caerfyrddin fod Plaid Cymru yn awr yn rym gwleidyddol pwysig. - Oddi ar wefan www.100arwyrcymru.com
Dafydd Wigley, Cyn-lywydd Plaid Cymru
|