Y Garn Goch

Y Garn Goch

Fe gysegrodd Gwynfor ei fywyd i achos Cymru, i gryfhau’r ymwybyddiaeth o Gymreictod ac i ddyfnhau awydd pobl Cymru i wybod mwy am eu hanes a’u diwylliant eu hunain. Ei awydd pennaf oedd gweld pobl Cymru yn byw yn hyderus fel Cymry ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu cenedl eu hunain fel y gall y genedl hon gyflawni ei photensial a gwneud y cyfraniad mwyf posibl i wareiddiad y byd.

Pan oedd y teulu yn byw rhwng Bethlehem a Llangadog, fe fyddai Gwynfor yn aml yn dringo i ben y Garn Goch ger Bethlehem i gael heddwch ac ysbrydoliaeth. Roedd Gwynfor yn ymddiddori’n fawr iawn mewn hanes lleol, yn ogystal a hanes Cymru wrth gwrs, ac mae bryngaer fawr Celtaidd Y Garn Goch yn dyddio o’r Oes Haearn.

Mae’n debyg mai dyma oedd canolbwynt tiriogaeth fawr a gynhwysai’r rhan fwyaf o’r ardal i’r de o Afon Tywi, ac mae rhai yn credu mae hon oedd prif ddinas Dyfed yn ystod oes y Celtiaid.

Gofynodd i’w deulu drefnu bod ei lwch yn cael ei wasgaru ar y Garn Goch. Mae’n addas felly fod y garreg goffa i Gwynfor wedi cael ei chodi ar y Garn, uwchben ei hoff Ddyffryn Tywi.

Gwasgaru Llwch Gwynfor ar y Garn Goch – Dydd Sadwrn, 17 Medi 2005

Dymuniad Gwynfor oedd i’w lwch gael eu gwasgaru ar y gaer hynafol sydd ar y Garn, a dyna a wnaethpwyd gan y teulu ar ddydd Sadwrn Medi 17 2005, y dydd ar ol dydd Owain Glyndŵr ac yn ystod mis penblwydd Gwynfor ei hun (Medi 1af).

Dadorchuddio Cofeb i Gwynfor ar y Garn Goch – Dydd Sadwrn, 15 Gorffennaf 2006

Dadorchuddioo Cofeb Gwynfor Evans ar y Garn Goch

Dadorchuddiwyd cofeb i Gwynfor ar y Garn Goch ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf 2006 fel rhan o Rali Cofio ’66 i ddathlu deugain mlynedd union ers iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad hanesyddol ar Gorffennaf 14eg 1966. Mae pawb oedd ar sgwar Caerfyrddin y noson honno yn cofio’r gorfoledd bendigedig a’r gobaith afresymol a daniwyd yno.

Cloddiwyd y garreg enfawr, sy’n pwyso 7.5 tunnell, mewn chwarel ger Llandybie. Cerfiwyd enw Gwynfor arni gan yr artist enwog Ieuan Rees a fu’n gyfrifol am nifer o gerfiadau ar gofebion i enwogion yn hanes Cymru. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid/crefftwyr mwyaf amryddawn Prydain ym maes llythrennu, cerfio llythrennau, caligraffeg, herodraeth a chyfathrebu graffeg.

Sut i gyrraedd y Garn Goch?

Lluniau