Caerfyrddin

Is-etholiad 1966

Yn is-etholiad Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966 llwyddodd Plaid Cymru i ennill ei sedd seneddol gyntaf erioed gyda Gwynfor Evans yn fuddugol.

Cynhaliwyd yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth Megan Lloyd George a oedd wedi bod yn Aelod Seneddol (Llafur) ers 1957.

O fewn yr etholaeth, roedd pryderon sylweddol bod glofeydd lleol ac ysgolion gwledig dan fygythiad o gau, tra bod ffermwyr yn poeni am drethi busnesau bach.

Ymladdodd Plaid Cymru ymgyrch effeithiol a chynnil, gan ddefnyddio sloganau gwahanol yng ngorllewin gwledig yr etholaeth (‘For a better Wales’) a’r dwyrain diwydiannol (‘For work in Wales’).

Ychydig oedd yn rhagweld buddugoliaeth i Blaid Cymru, heb sôn am y mwyafrif cyfforddus o 2,436 a sicrhaodd Gwynfor Evans. Roedd y fuddugolaeth hon yn syfrdanol a newidiwyd cwrs hanes Cymru gydag ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru i San Steffan.

Y tu allan i’r cyfri, canodd torf orfoleddus o 2,000 yr anthem genedlaethol a chwifio baneri Cymru.

Roedd pennawd y papur lleol yn datgan: “Election of the Century – Plaid’s Astonishing Win.”

Gellir dadlau i’r fuddugoliaeth yma gael dylanwad ar y pleidleisio yn yr Alban flwyddyn yn ddiweddarach pan etholwyd Winnie Ewing yn is-etholiad Hamilton ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP).

Collodd Gwynfor ei sedd ym 1970 ond fe’i ail-etholwyd yn etholiad cyffredinol Hydref 1974 ar ôl colli o dair pleidlais yn etholiad cyffredinol gwanwyn 1974.

Cofeb Sgwâr Caerfyrddin

Cafodd cofeb ei ddadorchuddio yng nghanol Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf 2016 i nodi 50 mlynedd ers is-etholiad 1966. Cafodd plac efydd gan y cerflunydd Roger Andrews ei ddadorchuddio y tu allan i’r Neuadd Ddinesig – Y Guildhall – lle wnaeth Gwynfor Evans ddathlu ei fuddugoliaeth.

Cyfraniadau cyhoeddus wnaeth dalu am y gofeb ac Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans fu’n gyfrifol am drefnu’r gwaith.

“Mae’n bwysig cofio am fuddugoliaeth Gwynfor yn 1966 gan fod hynny wedi newid holl hanes gwleidyddol Cymru. Ni fyddai Senedd yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans. Dyna pam mae’n bwysig gosod cofeb yng Nghaerfyrddin i nodi cyfraniad y gŵr arbennig hwn.” meddai Peter Hughes Griffiths ar y pryd yn siarad ar ran yr Ymddiriedolaeth.

Cafodd y gofeb ei dadorchuddio gan aelodau o deulu Gwynfor Evans a Cyril Jones, ei asiant yn ystod yr isetholiad. Ar ôl y dadorchuddio roedd yna wasanaeth yng nghapel Heol Awst.

Carys Llywelyn, wyres Gwynfor Evans, gyda’i theulu ger y plac ar ddiwrnod y dadorchuddio.