Daeth dros 2,000 o bobl i angladd cyn-lywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, yn Aberystwyth ar ddydd Mercher 27 Ebrill 2005.
Bu farw Gwynfor Evans ar Ebrill 21 yn 92 mlwydd oed ac mae nifer – gan gynnwys gwleidyddion o bob plaid – wedi bod yn talu teyrnged iddo.
Cynhaliwyd gwasanaeth preifat yng nghartre’r teulu yn Nhalar Wen, Pencarreg, am 1100 fore Mercher, yna dechreuodd y gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Seion yn Aberystwyth am 1330.
Arweiniodd pibydd yr orymdaith angladdol i’r capel.
Roedd baner y ddraig goch yn gorchuddio’r arch ac yn dilyn roedd tua 40 o aelodau’r teulu.