Cymru’n Deffro
Does gen i ddim gronyn o amheuaeth mai fo ydi’r cenedlaetholwr gwleidyddol mwya’ erioed yng Nghymru a Chymro mwya’r ugeinfed ganrif.
Dafydd Wigley, Cyn-lywydd Plaid Cymru
Mae Gwynfor Evans yn perthyn i griw dethol o bobl a heriodd Margaret Thatcher ac ennill yn ei herbyn. Cafodd ei gynddeiriogi wedi iddi dorri ei gair ynglyn â sefydlu S4C ym 1980 a bygythiodd newynu i farwolaeth. Roedd hynny’n ddigon i beri i’r “Ddynes Haearn” newid ei chân am unwaith.
Fel ymgyrchydd diflino ar faterion fel yr iaith a hunaniaeth ddiwylliannol, digon annisgwyl oedd cefndir Gwynfor. Roedd yn fab i berchennog siop adrannol yn y Barri, tref y dociau yn y de, a ddysgodd Gymraeg pan yn oedolyn.
Yng ngholeg y Brifysgol Aberystwyth y daeth gwleidyddiaeth Gwynfor Evans i’r amlwg. Sefydlodd gangen Plaid Cymru, a oedd yn blaid ymylol ar y pryd, a oedd yn cael ei chysylltu’n bennaf ag ymgyrchoedd uniongyrchol a argymhellwyd gan yr awdur a’r ysgolhaig Saunders Lewis. Roedd Gwynfor yn heddychwr a wrthododd wasanaethu’n yr Ail Ryfel Byd.
Ym 1945, daeth yn Llywydd ar y blaid, a dechreuodd ei ymgyrch yn erbyn boddi pentref Cwm Celyn ger y Bala – cynllun a fyddai’n darparu dwr i Lerpwl. Er i’r ymgyrch fod yn aflwyddiannus, bu’n fodd i amlygu’r bygythiad cynyddol i gymunedau Cymraeg a’r iaith ei hunan.
Daeth ei awr fawr ym 1966 pan alwyd isetholiad yng Nghaerfyrddin. Yn gwbl annisgwyl, enillodd Gwynfor Evans a Phlaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol. Dangosodd ganlyniad Caerfyrddin fod Plaid Cymru yn awr yn rym gwleidyddol pwysig.